View site in English

Polisi Preifatrwydd ac ymwadiadPOLISI PREIFATRWYDD
Croesawn ohebiaeth oddi wrthoch chi fel un sy’n defnyddio’r safle hwn – naill ai drwy ein ffurflenni electronig neu drwy ebost uniongyrchol.

Dim ond gwybodaeth a roddir i ni drwy’r dulliau hyn fydd yn cael ei chadw gennym a defnyddir eich gwybodaeth bersonol gennym yn gyffredinol ond i’n galluogi ni i ateb eich ymholiad. Ni roddir eich gwybodaeth bersonol i unigolion neu fudiadau allanol oni bai bod angen cyfreithiol i ni roi’r wybodaeth honno neu os cawn ni eich caniatâd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn ond yn berthnasol i’n helfen ni o’r wefan hon. Nid yw perchenogion neu weithredwyr unrhyw safle yr ydym yn darparu dolenni iddo yn rhan o’r polisi hwn ac ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth a roddir iddynt gennych chi.

YMWADIAD
Tra bod pob ymdrech wedi’i wneud i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, nid oes modd i ni warantu na fydd camgymeriadau’n codi.

Ni chymerwn gyfrifoldeb am unrhyw anghyfleustra, colled neu niwed mewn perthynas â’r defnydd o’r wefan hon, pa bynnag yr achosir. Gall y wefan gynnwys gwallau teipio neu wallau eraill yn anfwriadol ac o bryd i gilydd gall problemau technegol godi. Darperir cysylltiadau i dudalennau allanol er eich hwylustod a’ch defnydd. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y tudalennau hynny.